This post was originally published on this site

Via @gwallter

Pe bawn i’n nofelydd hanesyddol, byddwn i’n meddwl dwywaith cyn dewis Dr John Davies Mallwyd fel ffigwr canolog fy llyfr.

Ysgolhaig oedd John Dafis (Davies) – yr ysgolhaig disgleiriaf o oes y Dadeni yng Nghymru, ac un o’n hysgolheigion amlycaf erioed.  Ei brif gampau oedd diwygio Beibl William Morgan a chyhoeddi gramadeg a geiriaduron Cymraeg arloesol.  Os nad oedd hynny’n ddigon – mae’n anodd creu naratif dramatig o fywyd unrhyw ysgolhaig – roedd ei fywyd yn dawel.  Cyrhaeddodd Fallwyd yn Sir Feirionydd fel rheithor yn 1604, ac yn anaml y symudodd o’r lle ‘anghysbell’ hwnnw tan ei farwolaeth ddeugain mlynedd wedyn. 

Ond allan o’r deunydd anaddawol hwn mae’r diweddar Gwynn ap Gwilym wedi ysgrifennu nofel, Sgythia, sy’n hollol eithriadol.

Eglwys Mallwyd

Ymunwn ni â Dafis yn fuan cyn ei fod yn dod i Fallwyd, yn 37 mlwydd oed – dewis call fel man cychwyn y nofel, achos taw ychydig sy’n hysbys am ei fywyd cyn hynny, ac roedd ei waith mawr o ymchwil a chyhoeddi eto i ddod.  William Morgan, esgob Llanelwy a mentor Davies, oedd yn gyfrifol, yn ôl pob tebyg, am drefnu iddo ddod yn rheithor i Fallwyd.  Wedyn ymlaen â ni, yn dilyn John Dafis wrth iddo ymgartrefu yn ei blwyf, priodi, cwrdd â’r cymeriadau amrywiol ymysg y plwyfolion, adeiladu rheithordy newydd, gweithio ar ei lawysgrifau a’i lyfrau, ac ymateb i’r pwysau crefyddol a gwleidyddol sy’n cyrraedd Mallwyd o’r byd tu allan.  Cawn ddarlun bywiog a manwl iawn o Fallwyd a’i gyffiniau.  Does dim syndod yn hynny, achos bod Gwynn ap Gwilym yn rheithor ym Mallwyd a’r plwyfi cyfagos rhwng 1997 a 2004.

Pont Minllyn

Mae Gwynn ap Gwilym yn storïwr dawnus, gan wau edau’r naratif yn grefftus iawn.  Er gwaetha’r ffaith bod bywyd Mallwyd yn gymharol ddi-ddigwyddiad, gall yr awdur godi tensiwn o dro i dro, er enghraifft trwy ddilyn atseiniau o’r ‘Gwylliaid Cochion Mawddwy’, y banditiaid a fyddai’n dychryn trigolion y fro yn y ganrif flaenorol (daw Siân, gwraig John, o deulu Lewis ap Owen, y sirydd a lofruddiwyd gan y Gwylliaid).  Mae’n amlwg bod Gwynn wedi ymchwilio pob agwedd ar fywyd a gwaith John Dafis, gan fanteisio ar waith trylwyr gan Rhiannon Francis Roberts, yr Athro Ceri Davies, Richard Suggett a sawl un arall.  Ond yr hyn sy’n drawiadol yw’r ffordd mae Gwyn wedi llenwi’r bylchau mawr yn y stori hanesyddol trwy ddyfeisio o’r newydd ddigwyddiadau a chymeriadau sy’n dod â lliw a sylwedd i’r naratif.  Ymhlith pobl y plwyf yw Huwcyn a’i fab Harri, adeiladwyr, Meurig Ebrandy, sy’n helpu John gyda’i waith ysgrifennu, a Hywel ap Rhys, sy’n ddrwgdybus o amcanion John.  Mae’r rhain yn cymysgu yn rhwydd gyda’r cymeriadau hanesyddol sy’n frith trwy’r tudalennau, fel Robert ap Hywel Fychan (Robert Vaughan) o Hengwrt, y casglwr llawysgrifau, a Richard Parry, esgob Llanelwy, dyn diog a hunanbwysig oedd am gymryd y clod am y gwaith a wnaed gan Dafis i ddiwygio Beibl William Morgan.

Pont Mallwyd

Nid yn unig mae Gwynn wedi meistroli’r wybodaeth i gyd sydd ar gael am John Dafis, mae hefyd wedi ei drwytho yn hanes a diwylliant Cymru a Lloegr yn yr ail ganrif ar bymtheg, gyda’u rhwygiadau crefyddol a thensiynau gwleidyddol.  Mae’n anodd inni, o safbwynt y 21ain ganrif, werthfawrogi’r dadleuon ffyrnig am gyfeiriad yr Eglwys yn hanner cyntaf y 17eg ganrif, ond fe’u trafodir yn glir ac yn atyniadol yn Sgythia.  Ond cawn weld hefyd sut oedd bywyd bob dydd ymysg pobl y cyfnod: eu dillad, eu tai, eu bwyd, eu harferion a’u hofergoelion (dyn o’r Dadeni a rhesymolwr yw John Dafis, sy’n amheus iawn am rai o gredau traddodiadol y pentrefwyr).

Rhaid edmygu’r ffordd y mae Gwynn yn dod â phobl a digwyddiadau ymylol i mewn i’r nofel, heb erioed dynnu ar dennyn ein gallu i gadw ein ffydd yng ngwirionedd y naratif.  Felly, down ni ar draws Brad y Powdwr Gwn, y llifogydd mawr ar lan afon Hafren, George Herbert y bardd a Ben Jonson y dramodydd.  I’r rhai sy’n gyfarwydd â’r oes, bydd pleser arbennig i’w gael o adnabod y rhain ac eraill fel maen nhw’n ymddangos yn ystod y stori.

Mae’r stori’n camu ymlaen â chyflymdra cyson. O bryd i’w gilydd mae’r awdur yn ein hatgoffa o dreigl amser a thristwch pethau, fel yn y darn hwn, sy’n nodweddiadol o arddull caboledig y nofel:

Roedd yr hen flwyddyn bellach yn llithro’n llegach i’w tranc.  Disgynnodd caddug oer dros yr holl wlad.  Gwisgodd rhew ac eira mis Rhagfyr fryniaiu a choed a dolydd Mallwyd â hugan wen.  A daeth y Nadolig, fel arferol, a miwsig pob aderyn wedi darfod o’r tir.

Eglwys Mallwyd (llun: Iestyn Hughes)

Yng nghanol y cyfan saif John Dafis ei hun.  Trwy ei lygaid y gwelwn ni’r digwyddiadau yn y nofel.  Eto, yn absenoldeb gwybodaeth lawn am y dyn hanesyddol, mae gan yr awdur gyfle i lunio ei gymeriad ei hun, a rhoi’r ffrwyn i’w ddychymyg.  Pwy yw’r John Dafis hwn?  Dyn hynod ddeallus, wrth reswm, ond hefyd yn ddyn goddefgar, amyneddgar a charedig, sydd â’r ddawn o droi problem anodd yn fantais i bawb (mae’n helpu Adda a Ffowc, dynion y mae tlodi a chaledi wedi troi at ladrata mewn anobaith).  Dyn hyddysg, wrth gwrs, a chawn gipolwg (heb fynd i ormod o fanylder blinedig) o’i waith ymchwil arloesol ar yr iaith Gymraeg, a’r proses llafurus o gyhoeddi llyfrau.  Ac ar yr un pryd, dyn ymarferol, sy’n ceisio helpu ei gyd-ddyn yn lleol, er enghraifft trwy ei waith i estyn yr eglwys ac chodi pontydd yn yr ardal.  A dyn sy’n sefyll, yn grefyddol, rhywle yn y canol, rhwng y rhai fel William Laud sy’n hiraethu am yr hen oes Gatholig, a’r Piwritaniaid sy’n awyddus i gael gwared ar esgobion a chyfundrefn yr Eglwys Brotestannaidd.  Mae’r Rhyfeloedd Cartref yn taflu cysgod tywyll dros ran olaf y nofel.  Yn ei fywyd preifat dyw John ddim yn sant.  Yn raddol mae ei pherthynas gyda’i wraig yn suro – mae hi’n teimlo’n ynysig ac yn unig, ac yn troi am gysur yn y pen draw at y curad ifanc Edward Wynn.  Ond portread deniadol yw hwn o ddyn cymeradwy sy’n hoelio ein sylw trwy gydol y nofel hir (bron i 400 tudalen).

Eugène Delacroix, Ofed ymysg y Sgythiaid (1862)

Dim ond tua diwedd y nofel cawn wybod beth yw ystyr y teitl.  Mewn llythyr at gyfaill yn Lloegr mae Dafis yn cyfeirio at ei fro ei hun fel ‘Sgythia’: mewn Lladin, ‘in Scythia hac et a literis remota’ (yn y Sgythia hon ymhell o fyd llên).  Sgythia oedd y wlad bell, anwaraidd ar ffiniau’r ymerodraeth Rufeinig, lle bu raid i’r bardd Ofydd fyw ar ôl cael ei alltudio o Rufain.  Jôc dda, heb os, a doedd John Dafis ddim o ddifrif, mae’n siŵr.  Doedd byw ym Mallwyd ddim yn alltudiaeth iddo, ond yn hytrach yn gartref addas iawn, lle gallai weithio’n dawel ar ei ymchwil ac ar yr un pryd gofalu yn ddiwyd am y bobl yn ei gymuned.

Mae’n drueni mawr i Gwynn ap Gwilym farw, yn gynamserol, cyn gweld ei nofel mewn print. (Mae gwedd olygus ar y llyfr, gyda llaw, gyda phrint clir ar bapur o safon, a chlawr trawiadol wedi’i ddylunio gan Heledd Wyn Hardy – diolch yn fawr i Wasg y Bwthyn.)  Ond bydd y nofel yn parhau fel cofeb i’w awdur ac fel esiampl ragorol o’i math: yng ngeiriau Ceri Davies, ‘cyfrol eithriadol ei hapêl at feddwl a dychymyg y darllenydd’.

Gwynn ap Gwilym, Sgythia: hanes John Dafis, rheithor Mallwyd: nofel. Caernarfon: Gwasg y Bwthyn, [2018].