This post was originally published on this site

Via @nationcymru

Siân Gwenllian AM. Llun gan y Cynulliad (CC 2.0).
Sian Gwenllian AC

Dyma ni ar gychwyn ffrae arall am y Gymraeg.

Beth sy’n rhwystredig yw nad oes angen y drafodaeth yma o gwbl. Does dim angen gwanio  ein hawliau mewn rhyw sôn niwlog am ‘newid cyfeiriad.’

Beth sydd wir angen yw ychwanegu’n sylweddol at y gwaith o ehangu a hybu’r Gymraeg ac nid oes rhaid i hynny ddigwydd ar draul hawliau’r lleiafrif ohonom ni sydd yn siarad Cymraeg.

Megis dechrau mae’r gwaith o gadarnhau ein hawliau a chamgymeriad dybryd yw ei roi ar stop.

Mae’r Blaid Lafur yn mynd yn ôl at yr un hen ddadl – y gost. Ond dydy datblygu a diogelu ein hawliau fel siaradwyr Cymraeg ddim yn waith drud yn y darlun mawr!

£3 Miliwn yw cyllideb gyfan swyddfa Comisiynydd y Gymraeg – arian pitw iawn mewn gwirionedd. Mae Llafur eisiau gwario dros £1.5 biliwn ar ddarn bychan o ffordd newydd yr M4 yn ne ddwyrain Cymru!

Mae galw’r safonau yn gostus yn gamarweiniol. A ph’run bynnag, fe ddylai darparu gwasanaethau Cymraeg sylfaenol – sef beth mae’r safonau yn ei sicrhau – fod yn rhan gwbl naturiol o wariant craidd pob corff sy’n gweithredu yng Nghymru.

Os ydy’r llywodraeth o ddifrif eisiau creu miliwn o siaradwyr mae angen buddsoddi nid cyfeirio arian pitw o un lle i’r llall.

Mae datblygu’r Gymraeg yn blethiad o gryfhau economïau cymunedau Cymraeg eu hiaith, ehangu addysg Gymraeg, hyrwyddo’r iaith a chryfhau hawliau siaradwyr. Ni ellir gwneud un ar draul y llall.

Adeiladu

Mae gennym Ddeddf Iaith ers 2011. Fe gymerodd hi chwe blynedd i sefydlu swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a dim ond dechrau cael y sefydliadau i weithredu y mae’r Safonau.

Does gennym ni ddim hawliau yn y sector breifat ac mae hyn yn creu problemau i siaradwyr Cymraeg a’u hawliau fel gweithwyr.

Ar y llaw arall, mae rheoleiddio meddal– sef yr hybu efo’r foronen mae’r Gweinidog yn rhefru amdano – yn gostus. Mae rhaid gofyn pa mor gynaliadwy ydy taflu arian at fusnesau mawrion yn hytrach na gwneud hynny’n hanfod yn ôl cyfraith?

Gadewch i ni adeiladu ar y gwaith sydd wedi dechrau – nid camu yn ôl mewn cyfnod sydd mor dyngedfennol i’r iaith.

Ydy, mae’r safonau yn rhoi hawliau i ni fel siaradwyr Cymraeg. Ond maen nhw’n gwneud mwy na hynny ac maen nhw yn bwysig i’n psyche fel siaradwyr Cymraeg.

Mae Deddf 2011 yn rhoi urddas i’n hiaith ni. Yn rhoi gwerth iddi. Mae hynny yn ei dro yn rhoi hyder i ni yn ein hiaith a’n hunaniaeth.

Mae’r hyder hwnnw yn bwysig wrth ddenu eraill i ddysgu’r Gymraeg.

Mae’r safonau hefyd yn golygu fod yn rhaid i gyrff gydnabod fod sgiliau dwyieithog yn anhepgor ar gyfer rhai swyddi – ar gyfer y swyddogion sy’n gyfrifol am ddarparu’r gwasanaethau Cymraeg i gwsmeriaid sy’n ei ddymuno.

Mae hyn yn ei dro yn creu gweithlu Cymraeg, marchnad lafur Gymraeg, ac yn creu swyddi i’r rhai sydd a’r sgiliau dwyieithog maen nhw’n ei ddysgu yn yr ysgol neu gartref.

Mae’r safonau yn rhan bwysig o ddatblygu’r Gymraeg ac o gyrraedd miliwn o siaradwyr.

Ond dyma ni eto fyth yn gorfod dadlau a chyfiawnhau ein bodolaeth!