Ydy, mae’n digwydd

Erbyn hyn does dim amheuaeth. Datganodd yr IPCC (UN International Panel on Climate Change) y mis yma fod tymheredd y blaned yn rhwym o godi’n sylweddol. Y brawddegau allweddol yn yr adroddiad yw’r rhain:

Amcangyfrir bod gweithgareddau dynol wedi achosi tua 1.0°C o gynhesu byd eang yn uwch na lefelau cyn-ddiwydiannol … Mae cynhesu byd eang yn debygol o gyrraedd 1.5°C rhwng 2030 a 2052 os yw’n dal i gynyddu ar y raddfa bresennol (hyder uwch).

Ond er mwyn cadw’r cynnydd o dan 1.5°C byddai rhaid wrth ‘newidiadau cyflym, pellgyrhaeddol a heb gynsail, ym mhob agwedd ar y gymdeithas’ – tir, ynni, diwydiant, adeiladau, trafnidiaeth a dinasoedd. A dim ond deuddeg mlynedd sydd ar ôl i roi’r newidiadau ar droed. Fel arall bydd cynhesu yn fwy na 1.5°C, gyda chanlyniadau trychinebus – llifogydd a thywydd eithafol, colli llawer mwy o’r byd naturiol, yn arbennig pryfed, symudiadau mawr o bobl, a rhyfeloedd. Oni bai ein bod ni’n newid cyfeiriad yn llwyr, bydd 3° o gynhesu yn anochel.

Does neb bron erbyn hyn yn ceisio gwadu geiriau’r gwyddonwyr. O’r diwedd mae’r BBC wedi rhoi stop i’w arfer anghyfrifol o wahodd Nigel Lawson ac eraill ar ei raglenni er mwyn ymosod ar wyddonwyr ar sail dim tystiolaeth. A hyd yn oed Donald Trump wedi stopio dweud taw cynllwyn byd-eang yw’r consensws am newid hinsawdd.

Felly rhaid gweithredu – nawr, ac yn sylweddol

Deuddeg mlynedd. Geiriau ysgytwol. Geiriau sy’n golygu bod dim dewis ond gweithredu nawr – eleni, y mis yma – i leihau’r lefelau o CO² sy’n mynd i’r awyr. Mae adroddiad yr IPCC yn gwbl glir ar y pwynt hwn. Dylai pawb ohonom – llywodraethau, cwmnïau a sefydliadau eraill, teuluoedd ac unigolion – newid sut rydym yn byw, ar unwaith ac mewn ffordd radical.

Os dyna’r gwir, mae’n anodd osgoi casgliad allweddol i lywodraethau’r byd – dwi’n gosod o’r neilltu’r dyletswyddau sydd ar gwmnïau ac unigolion – sef bod dim byd pwysicach na gweithredu ar unwaith i osgoi rhagor byth o gynhesu. Golyga hyn fod popeth sy’n hoelio sylw ein gwleidyddion ni ar hyn o bryd – Bregsit, tlodi ac anghydraddoldeb, terfysgaeth, Bregsit eto – yn llai o flaenoriaeth nag achub y blaned.

Ac os dyna’r gwir, mae gennym bob hawl i ofyn rhai cwestiynau moel i’n gwleidyddion, ‘Felly beth ydych chi’n ei wneud? Sut ydych chi’n mynd i gynllunio? Beth ydych ch’n mynd i ddisgwyl i ni – dinasyddion – ei wneud?’

Ymateb America a Phrydain

Ar hyn o bryd, fodd bynnag, atebion llugoer, annigonol fydd yn dod nôl i’r ymholiadau hyn. Tynnodd Donald Trump yr Unol Daleithiau allan o gytundebau Paris (sy’n cynnig ffordd gychwynnol ymlaen, er eu bod yn annigonol), ac yn anwybyddu pawb sy’n galw iddo am newid cyfeiriad. Ym Mhrydain mae’r Ceidwadwyr mor awyddus i barhau eu brawddladdiad fel bod eu llywodraeth yn anwybyddu pob maes polisi bron, gan gynnwys newid hinsawdd. A phryd maen nhw yn penderfynu gwneud rhywbeth, maen nhw’n cyhoeddi polisïau sy’n difrodi yn hytrach na helpu’r amgylchedd – fel rhoi stop i godi ffermydd gwynt ar dir, rhoi anogaeth i gwmnïau ffracio, tynnu’r gefnogaeth ariannol i geir trydanol, neu ffrwydro’r cynllun i greu morlun Abertawe.

Llywodraeth Cymru

Beth am Gymru? Rhaid cydnabod ar unwaith na fydd impact polisïau gan wlad fach ar ddyfodol y blaned yn debyg o fod yn sylweddol. Hefyd, nad oes gan y Cynulliad ddigon o bwerau i wneud gwahaniaeth fawr mewn sawl maes, gan gynnwys polisi ynni, sy’n dal yn nwylo San Steffan. Ar y llaw arall, mae meysydd eraill lle mae gan y Cynulliad gyfle i fentro, a byddai’n braf gweld Cymru yn dangos esiampl dda i weddill Prydain a gweddill y byd.

Beth yw record Llywodraeth y Cynulliad yn ddiweddar? (Mae digon o uchelgeisiau, deddfau, a llawer o strategaethau, ond yr unig beth sy’n cyfrif yw canlyniadau.) Cymysg, a bod yn onest. Mae’n wir fod Carwyn Jones yn barod i gefnogi ffermydd gwynt, a murlun Abertawe, ac wedi gwrthwynebu ffracio yng Nghymru. Ond allwch chi ddim enwi llawer o bolisïau Cymreig sy’n helpu’r newid o danwydd ffosil i ffynonellau adnewyddadwy o ynni mewn ffordd sylweddol.

O ran trafnidiaeth, sy’n cyfrannu cymaint â 30% tuag at gynhesu byd eang, nid cymysg yw’r gair cywir, ond trychinebus. Roedd dim lleihad bron wedi bod yn y lefel o nwyon tŷ gwydr o Gymru rhwng 1990 a 2014. Ymddengys fod y Llywodraeth yn benderfynol o fwrw ymlaen â’i chynllun amheus i godi estyniad i’r M4 yn ardal Casnewydd. Y ddau ganlyniad o’r fenter hon, heb os, fydd sugno hyd yn oed mwy o draffig i’r draffordd (gan gynyddu lefelau llygredd), a dinistrio un o’r amgylcheddau mwyaf gwerthfawr yn y wlad, Gwastadeddau Gwent. Byddai canslo’r cynllun yn rhyddhau £1.4bn (mwy, yn ôl pob tebyg) i’w wario ar gynlluniau mwy positif.

Yn ddiweddar cyhoeddodd y BBC wybodaeth am gost y cymhorthdal gan Lywodraeth Cymru i gwmni Aston Martin, i’w helpu i gynhyrchu ceir moethus (£19.8m) – prosiect fydd yn ychwanegu at lefelau CO² (er bydd y ceir cyntaf yn rhannol drydanol).

Mae’r darlun cymysg hwn – rhai polisïau a chynlluniau canmoladwy ac eraill sy’n canslo allan yr enillion – ond yn symptom o’r ffaith fod y Llywodraeth yn bell iawn o drin cynhesu byd eang fel mater o bwysigrwydd dirfodol. Mae cynhesu’n dal i aros mewn basged â’r label ‘materion gwyrdd’ – i’w cefnogi os bosibl, ond i’w hanwybyddu os daw blaenoriaeth uwch, fel twf economaidd (esiampl dda: estyniad yr M4) – hyd yn oed os oes digonedd o dystiolaeth i ddangos taw canran fach iawn o’r boblogaeth yn unig sy’n elwa o unrhyw dwf yn yr economi.

Beth ddylai ddigwydd?

Mewn dau air, chwyldro meddyliol.

Pam?  Achos bod dim arwydd bod pleidiau gwleidyddol Cymru yn sylweddoli’r angen i newid cyfeiriad mewn ffordd radical. Os edrychwch chi ar y maniffestos a’r datganiadau diweddar gan y gwahanol ymgeiswyr i arwain y Blaid Lafur a Phlaid Cymru, mae’n amlwg nad oes ganddynt yr ymrwymiad na’r bwriad na’r ewyllys i drin cyfraniad Cymru i ddyfodol y blaned fel eu blaenoriaeth bwysicaf. Felly, dyw dewis y gair chwyldro ddim yn gor-ddweud. Bydd rhaid i’r Llywodraeth nesaf, a’r aelodau Cynulliad i gyd, fod yn barod i newid eu ffordd o feddwl, a’u dulliau o wleidydda.

Dau beth gwahanol fydd eu heisiau wedyn: yn gyntaf, newid strategaeth y llywodraeth, a’r polisïau fydd yn dod yn eu sgil, ac yn ail, gwneud pob peth posibl i sicrhau bod pobl y wlad hefyd yn dihuno i’r angen dybryd a newid eu harferion eu hunain.

Pa bolisïau newydd fyddai’n dilyn, petai’r chwyldro yn llwyddo? Dwi ddim yn arbenigwr amgylcheddol, ond dyma rai mesurau posib sy’n dod i’r meddwl ar unwaith:

  • Canslo’r estyniad i’r M4 a defnyddio’r arian i wella trafnidiaeth fydd yn llai niweidiol i’r amgylchedd.
  • Gwella’r rhwydwaith rheilffyrdd – nid yn unig yn ne-ddwyrain Cymru ond trwy’r wlad, gan adfer y cysylltiad rhwng y de-orllewin a’r gogledd-orllewin.
  • Sicrhau gwelliant sylweddol yn y gwasanaeth bysus, sydd wedi dioddef mor ddifrifol dros y blynyddoedd o gynni. Dylai pawb gael eu defnyddio am ddim.
  • Gweithredu fel bod cerbydau trydanol yn gyffredin ar ffyrdd Cymru cyn gynted â phosib – er enghraifft trwy gyflwyno rhwydwaith o bwyntiau ail-drydanu.
  • Annog pobl i beidio â defnyddio ceir mewn dinasoedd a threfi, trwy roi blaenoriaeth i seiclwyr a cherddwyr, cyflwyno terfynau 20 milltir yr awr, a chyfyngu parcio.
  • Annog (a gorfodi) busnesau sy’n llygru i wella eu perfformiad o ran eu heffeithiau ar yr amgylchedd
  • Anelu at gynhyrchu llawer mwy o’n trydan trwy ddefnyddio ffynonellau adnewyddadwy.
  • Dechrau rhaglen sylweddol i godi ymwybyddiaeth ymysg pobl Cymru am y peryglon, a’u dyletswyddau nhw.

(Ydy rhai o’r rhain yn amhosibl o fewn pwerau presennol y Cynulliad? Os felly, dyna’r union bwerau y dylai’r Llywodraeth geisio eu derbyn o San Steffan.)

Yn 2011 Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i orfodi siopau i godi tâl am fagiau plastig. Does dim rheswm pam na ddylai Cymru arwain y ffordd i wledydd eraill eto, gyda pholisïau sy’n llawer mwy pellgyrhaeddol.

Be amdani, wleidyddion?