This post was originally published on this site

Via @gwallter

Y farn unfrydol bron yw bod Eisteddfod Caerdydd 2018 yn llwyddiant ysgubol.  Dim syndod mewn ffordd: tywydd caredig, llawer o ymwelwyr, enillwyr teilwng yn y prif gystadlaethau, cerddoriaeth ragorol, a ffrinj bywiog, gan gynnwys y croeso adre ecstatig i Geraint Thomas.

Ond y prif reswm, heb os, yw’r ffaith bod dim ffens o gwmpas y Maes (er bod maes o ryw fath yn dal yn bod) a dim tâl sylweddol i’w thalu i fynd i mewn.  O ganlyniad daeth miloedd o bobl ychwanegol, gan gynnwys pobl ddi-Gymraeg, yn arbennig o’r cymunedau lleol fel Tre-Biŵt a Grangetown, fydden nhw ddim wedi breuddwydio am ddod fel arall.  Fy argraff hefyd oedd bod yr Eisteddfod hon yn ifancach fel arfer.  Ond ar ben hynny roedd ysbryd newydd ar led: ysbryd o lawenydd fod yr ŵyl yn gwbl agored – yn agored i bawb ac ar agor i bob dylanwad.  Ers y 1980au dyn ni wedi dod i arfer â’r rhagdybiad neo-rhyddfrydol bod rhaid talu am bopeth ac mai peth annaturiol yw rhannu digwyddiad mawr gyda’n gilydd yn rhad ac am ddim.  Yr wythnos hon roedd hi’n bosib inni ailddarganfod, gyda pheth syndod, y profiad o anghofio am y byd masnachol, atomistig a chofleidio byd arall, mwy cymunedol a mwy optimistaidd.

O ran yr iaith Gymraeg, os yw Llywodraeth Cymru o ddifri am weld miliwn o siaradwyr erbyn 2050, un peth amlwg iddyn nhw ei wneud, fel cam bach ymlaen, fydd galluogi’r Eisteddfod i fod yn ddi-dâl bob blwyddyn o hyn allan.

Mae’n wir i ddweud nad oedd pob rhan o Eisteddfod Caerdydd yn gref.  Roedd Y Lle Hanes, yn gudd mewn cornel o Ganolfan y Mileniwm, yn hynod ddifflach.  Yn waeth na hynny, cuddiodd e’r gwahanol gyrff yna (Amgueddfa Cymru, Comisiwn Brenhinol a’r gweddill – pob un yn anweladwy), mewn ffordd sy’n cryfhau dadl ddiweddar David R. Howell fod Llywodraeth Cymru yn newynu ein sefydliadau diwylliannol i farwolaeth.

Siom arall oedd Y Lle Celf.  Nid cymaint oherwydd safon y gelf ond o achos bod rhaid sefyll mewn rhes hir y tu allan i’r Senedd am hir, diolch i fesurau diogelwch, cyn cael mynd i mewn.  Peth braf yw agor ein senedd-dy i bawb yng Nghymru, ond erbyn imi gyrraedd y tu mewn a siarad â ffrindiau ar y ffordd, roedd hi’n amser ymadael i wneud rhywbeth arall cyn edrych ar y gwaith celf o ddifri.

Gwen John, Girl in profile

Ond yn ffodus roedd arddangosfa arall ar gael, ar lawr cyntaf adeilad y Pierhead: celf a brynwyd, ers ei sefydlu yn 1938, gan Gymdeithas Celfyddyd Gyfoes Cymru (CASW).  Nod CASW yw casglu gwaith ym mhob cyfrwng gan artistiaid cyfoes a’u lleoli mewn sefydliadau cyhoeddus ledled y wlad, er mwyn cefnogi’r artistiaid ac ennyn diddordeb y cyhoedd mewn celf gyfoes.  Oherwydd cyfyngder lle, dim ond detholiad bach o’r cannoedd o weithiau a brynwyd yn ystod y blynyddoedd oedd i’w gweld yn y sioe, ond roedd Peter Wakelin, ei guradur, wedi dewis enghreifftiau o’r safon uwch.  Y gwaith cyntaf a brynon nhw oedd campwaith, Petra, dyfrliw gan David Jones, ac yn fuan wedyn, campwaith arall, Proffil merch gan Gwen John.  Ymysg yr artistiaid yn y casgliad, roedd eu gwaith i’w weld yn yr arddangosfa, oedd Alfred Janes, Cedric Morris, David Nash, Erica Daborn, Jack Crabtree, Glenys Cour, Shani Rhys James, Lois Williams a Sue Williams.  Un o’r pryniadau mwy diweddar yw casgliad o dai bychain ceramig gan Emily Jenkins o’r enw Cofiwch Dryweryn.  Ar wyneb y tai unigol gallwch weld ddŵr a gwymon a physgod, atgofion o’r ffaith bod pentref Capel Celyn o dan ddŵr cronfa Tryweryn ers 1965.  Mae’n amserol bod y gwaith hudolus hwn yn ailymddangos yn ystod yr haf sychlyd hwn, pryd mae olion y pentref wedi dod i’r golwg unwaith eto wrth i lefel y dŵr yn y gronfa suddo.

Crabtree, Jack, The day Before the ballot

Dangoswyd ffilm yn y Pierhead, a brynwyd gan CASW yn 1969, o’r enw After many a summer.  Yr is-deitl yw ‘gwedd newidiol Tiger Bay’, ac mae’n cynnig darlun trawiadol ac anarferol o Dre-Biŵt ar adeg o newid pellgyrhaeddol yn y gymuned yno.

Yn y llyfryn sy’n cyd-fynd â’r arddangosfa – fydd yn teithio i Lanbedrog, Machynlleth ac Abertawe – mae Peter Wakelin yn gwneud y sylw bod CASW wedi gwneud cyfraniad  bach ond pwysig, dros y blynyddoedd, i gasgliadau nifer o orielau ac amgueddfeydd Cymru.  Ond mae ‘na wahaniaeth rhwng y gorffennol a heddiw.  Ar un adeg roedd gan y sefydliadau arian cyhoeddus ar gael er mwyn prynu esiamplau o gelf gyfoes o Gymru.  Heddiw does dim un ohonyn nhw sy’n gallu prynu gwaith yn rheolaidd o’u cronfeydd eu hunain.  Felly, er gwaetha’r ymdrechion gan CASW a rhoddwyr eraill fel Cyfeillion y Glynn Vivian, mae’n debyg na fydd gwaith gan lawer o’n artistiaid cyfoes i’w weld gan y cyhoedd yn ein horielau yn y dyfodol.

Emily Jenkins, Cofiwch Dryweryn

Does dim ffordd arall, mewn gwlad fel Cymru, o adeiladu casgliadau cyhoeddus – a chynnal orielau ac amgueddfeydd yn gyffredinol, o ran hynny – ond trwy wario arian cyhoeddus, yn ganolog ac yn lleol.  Mae’r gost o ariannu’r sefydliadau’n bitw iawn o gymharu â’r arian sy’n mynd i addysg ac iechyd.  Mae’n hen bryd i Lywodraeth Cymru newid polisi, gweld gwerth y celfyddydau (fel gwerth yr iaith Gymraeg), a bod yn barod i wario arnyn nhw’n ddigonol.

Bydd arddangosfa Ddoe a heddiw yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog, 7 Hydref tan 28 Tachwedd; yn MOMA, Machylleth, 8 Rhagfyr tan 26 Ionawr 2019, ac yn Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe, 9 Chwefror tan 12 Mai 2019.

Mae’r llyfryn ar gael nawr: Peter Wakelin, Ddoe a heddiw: 80 mlynedd o gasglu celfyddyd gyfoes Cymru, CASW, 2018.